                           
|
| | | |
|
Awgrym Gwych i Sbarduno Bechgyn i Ddarllen gan Maureen Lewis 7. Rhowch reswm iddyn nhw dros ddarllen – dealltwriaeth a dewis llyfrau
Mae ysgogiad yn hanfodol i lwyddiant y rhan fwyaf o ddysgwyr, ond mae’n arbennig o bwysig i fechgyn.
Mae angen i fechgyn weld rheswm dros yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn wahanol i ferched, wnawn nhw ddim oll ar orchymyn rhywun yn unig. Mae rhoi rhyddid i fechgyn i ddewis eu deunydd darllen eu hunain - a darparu'r math o ddeunydd fydd yn apelio atyn nhw - yn hanfodol.
Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud fel athro yw rhoi rheswm i fechgyn dros ddarllen a hefyd dros ysgrifennu. Mae’r ffordd y mae darllenwyr ifainc dibrofiad yn llyncu llyfrau am ddeinosoriaid ac yn gallu adrodd eu henwau cymhleth, er enghraifft, yn dystiolaeth o’r hyn y gall bechgyn gyflawni fel darllenwyr os ydyn nhw wir eisiau.
|
|
Beth gallwch chi ei wneud:
Dealltwriaeth o destun yw rheswm pob darllenwr dros ddarllen, felly mae’n bwysig gosod gwerth uchel ar ymddiddori plant ag ystyr testun.
Mae angen addysgu sgiliau dealltwriaeth – bydd angen i chi roi ystod o strategaethau hybu dealltwriaeth i blant o bob oedran i’w helpu i gael mynediad i destun ac i’w helpu i nabod pa strategaethau i’w defnyddio a phryd i’w defnyddio.
|
|
|
Dysgwch ddealltwriaeth trwy ddefnyddio strategaethau megis siarad, drama, chwarae rôl ac ysgrifennu.
Gall geirfa gyfyng fod yn rhwystr go iawn i ddealltwriaeth felly mae’n bwysig i ymestyn geirfa’r plant trwy siarad a gwrando yn rheolaidd, darllen ar goedd, chwarae gyda geiriau, casglu geiriau, gemau geiriol ayb.
Darparwch ystod o lyfrau a deunyddiau eraill fydd yn apelio at fechgyn - storïau sy’n symud yn gyflym, llawn cyffro, antur, dirgelwch, difyrrwch ac amrywiaeth o waith ffeithiol sy’n rhwydo’r darllenwr.
Gadewch i fechgyn daclo testunau ‘anos’ os ydyn nhw eisiau - mae’r mwyafrif o fechgyn yn hoffi her ac mae hyn yn eu hysgogi. Mae’n gamdybiaeth gyffredin mai’r cyfan mae bechgyn eu heisiau yw talpau o destunau byr a hawdd.
Gadewch i fechgyn helpu wrth ddewis llyfrau a pharchwch eu dewisiadau, fel eu bod yn teimlo bod darllen ar eu cyfer nhw.
|
|
Enghraifft o weithgarwch ymarferol
|
|
Gwnewch strategaeth dealltwriaeth arbennig yn beth mor gyfarwydd nes bod y plant yn dechrau ei ddefnyddio’n ddigymell.
Er enghraifft, mae strategaeth ‘meddwl, teimlo, dweud’ yn annog empathi a dod i gasgliad trwy ofyn i’r darllenwr gael saib wrth ddarllen a damcaniaethu ynghylch yr hyn mae’r cymeriadau yn ei feddwl, ei deimlo a’i ddweud.
|
|
|
Gall hyn fod yn weithgarwch ar lafar neu gael ei gofnodi ar daflen gyda swigen feddwl, swigen siarad a siâp calon. (Gweler Llawlyfrau Prosiect X ar gyfer Meistrgopi ‘meddwl, teimlo, dweud’).
|
|

 
|
|