                           
|
| | | |
|
Awgrym Gwych i Sbarduno Bechgyn i Ddarllen gan Maureen Lewis 3. Defnyddio modelau rôl darllen
Gan fod ysgolion cynradd a llawer o gartrefi yn amgylcheddau dan ddylanwad ‘benywaidd’ yn bennaf dydy rhai bechgyn ddim yn ystyried darllen fel gweithgarwch gwrywaidd. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n ymwneud â chodi cyrhaeddiad bechgyn yn gosod gwerth uchel ar fodelau rôl gwrywaidd positif i fechgyn.
Beth gallwch chi ei wneud:
Byddwch yn fodel rôl positif eich hunan – byddwch yn ddarllenwr!
Dewch o hyd i amser i ddarllen i blant – o bob oed – mor aml â phosibl. Gwnewch ddarllen yn rhan ganolog o’ch amserlen.
Ceisiwch ehangu eich gwybodaeth o lenyddiaeth plant a diwylliant poblogaidd fel eich bod yn gallu cynghori eich disgyblion yn well am ‘bethau da i’w darllen’.
Os yn bosibl, defnyddiwch uwch aelod o staff neu aelod o’r staff â phroffil amlwg fel mentor darllen – bydd hyn yn gwneud i’r plant deimlo’n bwysig ac i deimlo bod eu problemau’n cael eu hystyried o ddifrif.
Anogwch rieni i fod yn fodelau rôl darllen da.
|
|
Defnyddiwch y gymuned ehangach – gwahoddwch bobl leol i’r ysgol i ddangos sut mae darllen yn eu helpu yn ddyddiol. Mae bechgyn yn ymateb yn dda i weld pobl mewn swyddi go iawn, yn enwedig os yw’r swydd yn adlewyrchu eu diddordebau. Mae’n eu helpu i weld fod pwrpas i ddarllen.
Gwahoddwch awduron i’r ysgol i siarad am sut beth ydy bod yn ddarllenwr ac yn awdur.
Defnyddiwch fentora gan gyfoedion - mae’r cyfle i ddarllen gyda phlentyn arall, yn enwedig un sydd wedi trechu anawsterau tebyg, yn strategaeth effeithiol dros ben i blant sy’n profi anhawster gyda darllen.
|
|
|
Enghraifft o weithgarwch ymarferol
Cyn gwahodd ymwelydd i’ch dosbarth, mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â’r hyn rydych chi eisiau ganddynt a sut rydych chi’n meddwl bydd y plant yn elwa o’r ymweliad.
Gorau i gyd os gallwch wahodd rhywun i siarad am dopig rydych chi’n ei astudio er mwyn gwneud yr ymweliad yn berthnasol - ac os oes ganddyn nhw swydd neu hobi sydd â’r ‘waw ffactor’ bydd hyn, yn ddiau, yn ysbrydoli diddordeb y plant, yn enwedig y bechgyn. Er enghraifft, os ydych chi’n astudio mynyddoedd, gwahoddwch ddringwr creigiau neu rywun o’r tîm achub mynydd.
Siaradwch â’r ymwelydd i ddarganfod yr hyn maen nhw’n teimlo’n gysurus a hyderus yn ei wneud. Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall yr hyn yr hoffech iddyn nhw ei ddweud, beth yw oedran y plant a geirfa addas i’w defnyddio, yn enwedig os yw eu rôl yn eithaf technegol.
Anogwch yr ymwelydd i ddefnyddio llyfrau a darllen ac i ddangos sut maen nhw’n berthnasol i’r hyn maen nhw’n ei wneud. Cyn yr ymweliad, sicrhewch eich bod wedi cytuno’n union ar yr hyn bydd yr ymwelydd yn ei wneud a’r hyn byddan nhw’n dod gyda nhw neu a fydd angen arnynt - ac wrth gwrs sicrhewch eich bod yn gwneud y profion diogelwch angenrheidiol ac unrhyw asesiad risg.
|
|

 
|
|