                           
|
| | | |
|
Awgrym Gwych i Sbarduno Bechgyn i Ddarllen gan Maureen Lewis 1. Bod â disgwyliadau uchel o bob un o’ch disgyblion
Beth gallwch chi ei wneud:
Gweithiwch gyda’ch gilydd i sicrhau bod gan yr ysgol gyfan agwedd ‘medru-gwneud’ a disgwyliadau uchel o bob un o’i disgyblion.
Ceisiwch roi i’r neilltu unrhyw ragdybiaethau a all fod gennych chi am awydd neu allu bechgyn i ddarllen.
|
|
Byddwch yn eglur yn eich disgwyliadau ac yng nghynnydd pob un o’ch disgyblion.
Heriwch ac archwiliwch yn fanwl unrhyw ragfarnau cyffredin am ryw fel bod plant yn gallu bod yn ymwybodol o sut y gall y rhain gyfyngu ar eu potensial.
|
|
|
Ewch i’r afael ag unrhyw dueddiadau ‘gwrol’ i bortreadu ysgol fel lle sydd ‘ddim yn cŵl’ neu ‘ar gyfer merched’ mor gynnar â phosibl – gall hyn olygu defnyddio modelau rôl gwrywaidd sy’n ‘cŵl’.
Gosodwch reolau clir ar gyfer ymddygiad sy’n dderbyniol - a dangoswch fod gennych chi ddisgwyliadau uchel ar gyfer ymddygiad bechgyn yn ogystal â’u dysg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwerth ar y pethau mae bechgyn yn eu gwneud ac yn hoffi eu gwneud - yn aml mae bechgyn yn cael eu beirniadu yn hytrach na chael eu cydnabod.
Pan fo bechgyn yn ddysgwyr amharod, dewiswch strategaethau penodol i’w symbylu a’u hymddiddori.
|
|

 
|
|