                           
|
| | | |
|
Awgrymiadau a Syniadau
Awgrymiadau a syniadau ar sut i sbarduno bechgyn i ddarllen!
Mae Gary Wilson a Maureen Lewis yn cynnig eu cyngor arbenigol i’ch helpu i sbarduno eich bechgyn i ddarllen ac ysgrifennu.
|
|
Garry Wilson
Mae Gary Wilson, Ymgynghorydd Addysg ac awdur, yn un o’r awdurdodau blaenllaw ar godi cyrhaeddiad bechgyn. Fe yw Cadeirydd yr "UK National Education Breakthrough Programme for Raising Boys' Achievement" ac mae e’n angerddol ynglŷn â’i waith ac ynglŷn â gwella dysgu ac addysgu bechgyn o oedran cynnar.
Awgrymiadau gwych i helpu i sbarduno’ch bechgyn i ddarllen!
|
|
|
Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau gwych yma gan Gary Wilson, awdurdod blaenllaw ar godi cyrhaeddiad bechgyn, i helpu i sbarduno eich bechgyn i ddarllen – ac i ddwlu ar wneud.
Mae cysylltu’r dysgu’n arbennig o bwysig i fechgyn, os nad ydyn nhw’n gweld a phwrpas clir fydd llawer ddim yn cymryd rhan.
Dangoswch y darlun cyflawn iddyn nhw. Mae mapio syniadau gan ddefnyddio trefnwyr graffeg o unrhyw fath yn gallu bod o help mawr i hybu ymrwymiad bechgyn â dysgu.
Crëwch gymaint o gyfleoedd ar gyfer myfyrio ag y gallwch. Dyma fan gwan y broses ddysgu i lawer o fechgyn.
Rhowch system i fechgyn – mae rhestri cyfeirio, matiau astudio, meini prawf llwyddiant yn gymorth go iawn i fechgyn.
Trafod, trafod, trafod a rhagor o drafod cyn ysgrifennu. Gall ysgrifennu cyn trafod i fechgyn.
|
|
Nodau cyfnod byr a gwobrau cyfnod byr. "Talpau sy’n gyfeillgar i fechgyn" sy’n gweithio orau i’r rhan fwyaf o fechgyn.
Er mwyn i lawer o fechgyn weithredu’n effeithiol mewn gwaith grŷp mae angen canlyniad clir, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu grwpio’n effeithiol, bod â rolau clir ac mae angen elfen o sialens.
|
|
|
Gosodwch her y munud maen nhw’n camu mewn i’r ystafell ddosbarth – datrys problem sy’n gweithio orau.
Sicrhewch fod cyfleoedd ar gyfer dysgu gweithredol ym mhob gwers.
Gwnewch bwysau gan gyfoedion yn llai trwy roi i arweinyddion eu cyfoedion ffocws positif i’w gallu arwain naturiol.
Meddyliwch am sut rydych chi’n siarad â bechgyn a sut rydych chi’n siarad â merched – edrychwch ar amlder, natur ac ansawdd yr ymwneud hyn. Mae llawer o fechgyn yn credu bod yn well gan athrawon ferched dim ond o achos y ffordd rydyn ni’n siarad â nhw.
Gwnewch e’n hwyl! Ymatebwch i’w diddordebau personol – rhowch werth ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig a gadewch i ni helpu roi taw ar y labelu negyddol sy’n digwydd i lawer o fechgyn.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gary www.garywilsonraisingboysachievement.co.uk
|
|
Maureen Lewis
Mae Maureen Lewis yn gyn-athrawes ac ar hyn o bryd yn ymchwilydd, darlithydd ac awdur. Dechreuodd ei gyrfa dysgu ac ymgynghori yn Llundain ac mae hi wedi dysgu plant o 5 – 13 oed. Mae hi wedi cynhyrchu deunyddiau ystafell ddosbarth ar gyfer nifer o gyhoeddwyr addysgol gan gynnwys adnoddau TGCH arloesol ac mae hi’n gymrawd ymchwil anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerwysg.
10 Awgrym Gwych i Sbarduno Bechgyn i Ddarllen gan Maureen Lewis
Dewiswch o'r rhestr ar y chwith i edrych ar awgrym gwych i sbarduno bechgyn i ddarllen.
|
|
|

 
|
|