|
  
|
          
|
|
|
                 
|
| | | |
|
Prosiect X - Cwestiynau a ofynnir yn aml
Sut gallaf ddefnyddio Prosiect X?
Mae Prosiect X wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio fel rhaglen darllen dan arweiniad/darllen mewn grŵp. Golyga hyn bod y llyfrau wedi’u hysgrifennu a’u lefelu gyda’r union lefel o gefnogaeth a sialens sydd eu hangen ar gyfer sesiwn darllen dan arweiniad. Mae’r llyfrau hefyd yn ddelfrydol ar gyfer darllen dewis rhydd ac annibynnol.
Gan ddefnyddio meddalwedd Storïau Rhyngweithiol Prosiect X, gall storïau penodol gael eu defnyddio ar gyfer darllen dosbarth ar fwrdd gwyn rhyngweithiol.
|
|
|
Sut mae llyfrau Prosiect X wedi’u lefelu?
Mae llyfrau Prosiect X wedi’u lefelu yn ôl Bandiau Llyfr ar gyfer Darllen dan Arweiniad (Cyfnod Allweddol 1) a Darllen dan Arweiniad (Cyfnod Allweddol 2) i gynnig yr union gefnogaeth a sialens sy’n addas ar gyfer sesiwn darllen dan arweiniad. Mae’r llyfrau wedi’u codio gyda lliw yn ôl lefel eu Band Llyfr - gweler y tab sy’n lapio’r meingefn ar ben pob llyfr.
Mae’r llyfrau hefyd wedi’u cyd-berthnasu â chamau Coeden Ddarllen Rhydychen a gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma ar glawr cefn pob llyfr.
Ydy Prosiect X yn rhaglen ffoneg?
Nac ydy. Dydy Prosiect X ddim yn rhaglen ffoneg, ond mae’n cydnabod pwysigrwydd sgiliau dadgodio ac adnabod geiriau ar gyfer darllen cynnar. Mae’r llyfrau’n darparu cyfleoedd i blant ymarfer ac atgyfnerthu’r sgiliau ffoneg maen nhw wedi’u dysgu, ar bob lefel o’r rhaglen. Gall plant hefyd ddefnyddio strategaethau eraill i ddarllen geiriau newydd fel bo’n addas.
Ydy’r llyfrau i gyd am yr un cymeriadaur?
Nac ydyn. O fewn Prosiect X mae cnewyllyn o lyfrau ffuglen sy’n sôn am anturiaethau Jac, Non, Hops a Sbwt. Mae’r llyfrau yma’n ffurfio llinyn o gymeriadau ‘sebon’ ysgogol, wedi’u darlunio gan ddefnyddio gwaith celf digidol 3D. Mae’r cymeriadau hyn a’r llinellau stori sydd wedi’u seilio ar eu watsys anhygoel a’u gallu i fynd yn fach, yn datblygu trwy’r lefelau’r rhaglen.
Yn ychwanegol, mae’r cymeriadau 3D yn ‘groesawyr' yn hanner llyfrau ffeithiol Prosiect X. Mae’r cymeriadau wedi’u hintegreiddio i’r llyfrau ac yn holi cwestiynau ac yn gwneud sylwadau er mwyn ennyn diddordeb y darllenwr.
Sut mae’r themâu/clystyrau’n gweithio?

Ar bob lefel o Brosiect X mae’r llyfrau wedi’u trefnu’n glystyrau thematig. Mae pum llyfr i bob clwstwr – 3 ffuglen a 2 ffeithiol – wedi’u cysylltu gan thema. Mae 22 o themâu wedi’u cynnwys ac maen nhw wedi’u dewis yn seiliedig ar ddiddordebau plant a thopigau dosbarth poblogaidd.
Ar eu lefel symlaf, mae themâu Prosiect X wedi’u dylunio i:
ysgogi ac ennyn diddordeb darllenwyr ifainc, yn enwedig bechgyn
cynnig cyd-destun diddorol a chyfarwydd ar gyfer darllen, ysgrifennu a siarad plant
cefnogi datblygu geirfa a dealltwriaeth
|
|
Ar gyfer yr ysgolion hynny sydd eisiau defnyddio arddull mwy thematig, trawsgwricwlaidd i’w dysgu ac addysgu, mae’r llyfrau o fewn pob thema hefyd yn darparu cysylltiadau rhwng llythrennedd a’r cwricwlwm ehangach.
Darperir syniadau a chyngor ar sut i ddefnyddio’r themâu’n ehangach yn y Llawlyfr Dysgu ar gyfer pob un flwyddyn yn y rhaglen.
|
|
Mae Prosiect X yn honni ei fod yn wych i fechgyn. Beth am y merched?
Dydy Prosiect X DDIM yn rhaglen ar gyfer bechgyn yn unig – rydyn ni’n hyderus iawn bydd hi wrth fodd merched hefyd, ac mae ein treialon yn bendant wedi dangos bod hyn yn wir.
Mae Prosiect X wedi’i ddylunio i ennyn diddordeb pob plentyn mewn darllen ond gan fod y rhan fwyaf o ddarllenwyr ‘amharod’ yn fechgyn rydyn ni wedi canolbwyntio ein sylw ar eu hanghenion nhw.
Pam? Am fod bechgyn sydd â diddordeb yn rhoi rhagor o amser i athrawon sicrhau fod pob plentyn yn eu dosbarth yn cael cymorth i wneud cynnydd. Felly amcan Prosiect X yw ennyn diddordeb bechgyn er lles bechgyn a merched ill dau.
|
|
|
Er mwyn ennyn diddordeb bechgyn, mae llyfrau Prosiect X wedi’u datblygu i apelio at anghenion a chwaeth bechgyn. Mae hyn achos bod ystod chwaeth darllen bechgyn yn gyffredinol yn fwy cyfyng na merched.
Tra bod y mwyafrif o ferched yn hapus i ddarllen storïau cyffro a storïau antur gyda phrif gymeriadau gwrywaidd neu lyfrau ar dopigau megis deinosoriaid, chwaraeon ac anifeiliaid, mae rhai bechgyn yn cael eu diflasu’n gyflym gan storïau ‘am ferched’ neu lyfrau maen nhw’n teimlo sydd ‘ar gyfer merched'.
Nid yw hynny’n golygu bod llyfrau Prosiect X i gyd yn adlewyrchu stereoteipiau gwrol. Mae cymeriadau cryf benywaidd yn ogystal â rhai gwrywaidd yn y storïau, ymdrinnir ag emosiynau a theimladau ac mae’r cynnwys ffeithiol sydd wedi’i ddewis yn ddigon apelgar i ferched.
Sut mae Prosiect X yn cefnogi asesu i ddysgu?
Mae darllen dan arweiniad/darllen mewn grŵp yn ffordd ddelfrydol o gasglu tystiolaeth am gynnydd darllen (a siarad a gwrando) plant.
|
|
Mae’r Nodiadau Darllen dan Arweiniad/Darllen mewn Grŵp yn cynnig amcanion a thargedau ar gyfer pob sesiwn ddarllen, ynghyd â phwyntiau asesu i gefnogi asesu i ddysgu yn ystod ac ar ôl darllen.
Yn y Llawlyfr Dysgu ar gyfer pob blwyddyn byddwch chi hefyd yn dod o hyd i gefnogaeth asesu pellach gan gynnwys:
Cofnodion cyfredol
Taflenni cofnodi asesu – sydd wedi’u cysylltu â’r Nodau Asesu Darllen
Taflenni hunan asesu disgyblion
Tystysgrifau darllen ac ysgrifennu disgyblion
|
|
|
Sut rydw i’n defnyddio’r meddalwedd Storïau Rhyngweithiol Prosiect X?
Mae’r meddalwedd Storïau Rhyngweithiol Prosiect X yn hyblyg ac yn rhwydd i’w lywio a gellir ei ddefnyddio i gefnogi eich gwersi llythrennedd trwy unrhyw un o’r dulliau canlynol.
Ar gyfer gwaith dosbarth cyfan mae’r meddalwedd yn ddelfrydol ar gyfer defnydd ar fwrdd gwyn rhyngweithiol a gellir ei ddefnyddio i gefnogi siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu gyda’r dosbarth cyfan.
Ar gyfer darllen dan arweiniad/darllen grŵp, os yw’r adnoddau gennych chi gellir defnyddio’r meddalwedd i gyflwyno darllen dan arweiniad ar sgrin. Gallwch weithio trwy’r llyfr gyda grŵp, a gall yr athro a’r disgyblion, ill dau, ddefnyddio’r offer i amlygu ac anodi agweddau o’r testun.
Ar gyfer darllen annibynnol mae’r enghraifft o ddarllen storïau’n ddelfrydol ar gyfer y plant hynny a all elwa o wrando ar stori’n cael ei darllen ar goedd.
Ar gyfer gwaith dilynol gellir defnyddio’r meddalwedd fel gwaith dilynol ar gyfer sesiwn dosbarth cyfan neu sesiwn dan arweiniad/grŵp. Gall plant ddarllen y stori eto’n annibynnol, anodi neu olygu’r testun, neu ddefnyddio’r fframau ysgrifennu a/neu ddelweddau a ddarperir i gwblhau tasgau ysgrifennu.
|
|
Cliciwch yma am gymorth technegol
Sut rydw i’n defnyddio Prosiect X ochr yn ochr â Choeden Ddarllen Rhydychen?
Does dim byd yn haws na defnyddio Prosiect X ochr yn ochr â hoff raglen ddarllen Cymru!
Gallwch ddefnyddio Prosiect X fel rhaglen ddarllen dan arweiniad ochr yn ochr â Choeden Ddarllen Rhydychen neu gallwch ddefnyddio Prosiect X i ehangu ystod eich adnoddau darllen annibynnol.
Mae’r holl lyfrau Prosiect X wedi’u cyd-berthnasu’n glir â Choeden Ddarllen Rhydychen i’ch helpu i drefnu eich adnoddau’n gyflym ac yn effeithiol.
|
|
|
Ydw i’n gallu trefnu bod fy Ngwerthwr Adnoddau Addysg lleol yn dangos Prosiect X i fi?
Bydd Gwasg Addysgol Drake yn trefnu cyfarfodydd clwstwr ym mhob rhan o Gymru i alluogi eich athrawon i archwilio adnoddau cyffrous Prosiect X.
Cliciwch yma i drefnu arddangosiad!
|
|
|
|

 
|
|
|
|
|