                 
|
Bechgyn a Darllen – Y Ffeithiau
Pa mor ddifrifol yw cwestiwn bechgyn?
Yng Nghymru mae sgoriau profion darllen ac ysgrifennu bechgyn yn arwyddocaol is na merched o’r Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar.

Gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad darllen o ran rhyw:
Cymru – mae bechgyn % y tu ôl i ferched
Lloegr - mae bechgyn 19% y tu ôl i ferched
Yr Alban - mae bechgyn 22% y tu ôl i ferched

Sbarduno Bechgyn i Ddarllen!
Mae Prosiect X wedi’i greu i ateb anghenion a diddordebau pob plentyn. Sut bynnag, mae toreth o ymchwil yn dangos bod sialensiau arbennig ynghlwm wrth sicrhau bod rhai bechgyn yn dod yn ddarllenwyr.
Mae bechgyn yn llawer mwy tebygol na merched i brofi anhawster gyda darllen ac i roi’r gorau i ddarllen yn annibynnol. Mae bechgyn yn llawer mwy tebygol na merched i dangyflawni wrth ysgrifennu hefyd. Yn y Rose Review, Mawrth 2006, nododd Jim Rose: "bryderon taer fod perfformiadau bechgyn yn gyffredinol wannach na merched".
Am y rhesymau hyn mae Prosiect X wedi’i ddylunio i gwmpasu cynnwys ac elfennau o arfer dysgu ac addysgu fydd yn cynnal bechgyn yn arbennig, heb fod yn anfanteisiol i ferched.
Mae ymchwil hefyd yn dangos mai ond ychydig o fwlch neu ddim bwlch o gwbl sydd rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched, mewn ysgolion lle mae athrawon:
â disgwyliadau uchel o bob plentyn yn y dosbarth.
yn osgoi stereoteipio o ran rhyw neu unrhyw stereoteipio arall.
yn defnyddio arddull addysgu gweithredol.
yn ceisio cynnwys pob plentyn.
yn defnyddio asesu ffurfiannol.
Pam mae bechgyn yn profi anhawster gyda darllen?
Mae’r rhesymau dros dangyflawni rhai bechgyn mewn llythrennedd yn gymhleth ac yn aml yn cynnwys ffactorau cymdeithasol ehangach megis rolau rhyw a stereoteipiau, dylanwadau teuluol, materion ymddygiad, pwysau gan gyfoedion a hunan-stereoteipio. Hefyd mae ffactorau sy’n cysylltu’n uniongyrchol ag addysgu darllen megis profiadau darllen cynnar bechgyn, disgwyliadau athrawon, arferion dysgu ac addysgu, cyd-destunau dysgu a’r dewis o lyfrau.
Mae un ffactor, fodd bynnag, sydd yn amlwg uwchlaw pob un arall wrth ystyried bechgyn a dysgu, sef cymhelliad. Wrth ystyried darllen ac ysgrifennu mae angen i fechgyn, yn llawer mwy na merched, weld diben clir i’r hyn maen nhw’n ei wneud. Fyddan nhw ddim yn gwneud dim oll dim ond oherwydd bod rhywun wedi gofyn iddyn nhw ei wneud; maen nhw angen gwybod sut fyddan nhw’n elwa o’i wneud. Nid diffyg gallu, ond diffyg awydd sydd gan rai bechgyn!
Yn ogystal â chynnwys llawn cymhelliad, mae nifer o arferion dysgu ac addysgu wedi profi’n llwyddiannus wrth fynd i’r afael â materion rhyw mewn ysgolion ac wrth gynnal darllenwyr sy’n fechgyn. Mae pob un o’r rhain wedi’u cynnwys yn Prosiect X.
Gan Dr Maureen Lewis – Golygydd y Gyfres (Wreiddiol)
“Mae canran uchel iawn o blant â sgiliau llythrennedd gwan iawn yn fechgyn.” The Long Term Cost of Literacy Difficulties, KPMG Foundation, Dec 2006
“Mae bechgyn dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddyslecsig.” Julia Carroll, University of Warwick Study, 2005
“Mae cyswllt uniongyrchol rhwng cyrhaeddiad disgyblion (yn enwedig bechgyn) mewn Saesneg yn 7 oed a’r tebygolrwydd eu bod yn bwlio neu’n cael eu bwlio erbyn 10 oed.” - Institute of Education Report, February 2008
“Mae bechgyn tair i bum gwaith yn fwy tebygol o gael datganiad dysgu a/neu anabledd darllen.” - National Centre for Educational Studies, 2000
“Mae bechgyn pum gwaith yn fwy tebygol o gael eu hadnabod i fod ag anawsterau ymddygiad, emosiynol neu gymdeithasol.” Gender and Education, DCSF, 2008
“Mae pump o bob chwe phlentyn sydd ag ADD neu ADHD yn fechgyn.” The American Psychiatric Association, 1994
|
|
|

 
|
|