| | | |

Dewch i adnabod y dylunwyr
Mae Jon Stuart a’i dîm yn Jonatronix Cyf ymhlith rhai o’r artistiaid sydd yn gyfrifol am y dyluniadau gwefreiddiol yn y gyfres Prosiect X.
Mae’r gwaith celf 3D ei hun wedi cymryd bron i 18 mis i’w ddatblygu, rhaid oedd creu dros 50 o gymeriadau, cannoedd o bropiau ac amgylcheddau manwl iawn di-ri.
Gallwch lawrlwytho’r datganiad i’r wasg i gael mwy o wybodaeth am y campwaith anhygoel yma.
Dewch i gwrdd â’r awduron
|
|
Tony Bradman
Mae Tony Bradman wedi bod yn ymwneud â llyfrau plant ers bron i dri deg mlynedd, fel adolygydd, golygydd, bardd ac awdur storïau. Mae e wedi cyhoeddi mwy na 200 o lyfrau ar gyfer plant o bob oed, ac mae ei waith wedi’i gyfieithu i fwy nag ugain iaith ac yn cael ei ddarllen dros y byd i gyd, yn ogystal â chael ei addasu ar gyfer y teledu.
|
|
Mae’n siŵr ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei lyfrau Dilly the Dinosaur, ac mae un o’i storïau’n cael ei haddasu i fod yn ffilm gan Cartoon Network ar hyn o bryd. Mae tri o blant a dau o wyrion gan Tony ac mae e’n byw yn Llundain.
|
|
|
Anthony McGowen
Cafodd Anthony McGowan ei eni ym Manceinion ym 1965. Aeth i’r ysgol yn Leeds. Mae ganddo M.Phil mewn athroniaeth a PhD ar hanes y cysyniad o brydferthwch.
|
|
Mick Gowar
Mae Mick yn awdur cydnabyddedig - sydd wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau i blant hyd yma, gan gyhoeddwyr adnabyddus sy’n cynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Heinemann, Penguin, Walker Books, Watts and Longman.
Mae Mick hefyd wedi ymwneud ag amryw o gyfryngau darlledu.
|
|
Mae e’n teithio o gwmpas ysgolion yn aml gyda’i weithdai, lle mae plant (ac weithiau oedolion) yn cael eu hannog i wneud storïau’n fyw. Mae talentau Mick yn cwmpasu pob genre, ac mae e'r un mor gysurus gydag odl ag yw e gyda rhyddiaith, felly hefyd ffuglen a ffeithiol.
Mae e’n gallu plethu hiwmor a sioncrwydd i unrhyw sefyllfa ond hefyd gall weu hud a dirgelwch i fyd tywyll straeon, mythau a chwedlau. Mae Mick yn ysgrifennu mewn sied yng Nghaergrawnt, lle gall chwarae Wagner mor uchel â mae e'n dymuno.
|
|
Shoo Rayner
Mae Shoo Rayner yn mwynhau ysgrifennu llyfrau i fechgyn. Mae e wedi ysgrifennu a darlunio dros gant o lyfrau plant ei hun, gan gynnwys Ricky Rocket, Viking Vik, Scaredy Cats a Little Horrors.
Pan nad yw Shoo yn ysgrifennu yn ei sied yn Fforest y Ddena neu’n gwylio ei gathod yn rhedeg ar ôl brogaod o gwmpas y pwll, mae
|
e’n ymweld ag ysgolion a llyfrgelloedd, yn difyrru plant gyda’i sgiliau adrodd stori.
Mae gan Shoo gysylltiad hir â Gwasg Prifysgol Rhydychen. Cafodd ei lyfrau cyntaf oll eu cyhoeddi fel rhan o Goeden Ddarllen Rhydychen.
|
Chris Powling
Mae Chris Powling wedi ysgrifennu mwy nag wyth deg o lyfrau ar gyfer plant, The Phantom Carwash, The Multi-million pound Mascot a Blade, yn ogystal â hanner dwsin o lyfrau ar gyfer oedolion yn ymwneud ag amrywiol agweddau ar ddarllen, ysgrifennu ac iaith plant.
|
|
Mae Chris wedi dysgu ar bob lefel yn y system addysg wladol o fabanod i ôl-raddedigion, a bu’n bennaeth ysgol gynradd yn Llundain am ddeng mlynedd. Roedd yn olygydd y cylchgrawn Books For Keeps o 1989-1996 pan enillodd y cylchgrawn Wobr Eleanor Farjeon am wasanaeth arbennig i lyfrau plant.
Mae e’n darlledu’n rheolaidd ac ar hyn o bryd mae e’n olygydd llyfrau ar gyfer yr orsaf radio annibynnol Classic FM gydag adolygiadau wythnosol o lyfrau ar gyfer darllenwyr o bob oed. "Mae gweithio ar PROSIECT X wedi bod yn hwyl aruthrol," meddai. "Rwy’n gobeithio bydd plant yn mwynhau ei ddarllen cymaint ag y gwnes i wrth ei ysgrifennu!"
|
|

|
Jan Burchett and Sara Vogler
Roedd Jan a Sara eisoes yn ffrindiau pan sylweddolon nhw fod y ddwy ohonynt eisiau ysgrifennu llyfrau plant ac roedd yn llawer mwy o hwyl i wneud hynny gyda’i gilydd.
Yn y cyfnodau rhwng clebran dros baneidiau o de di-ri maen nhw wedi llwyddo i gynhyrchu dros wyth deg o storïau. Yn ogystal â gweithio i Wasg Prifysgol Rhydychen maen nhw wedi ysgrifennu llawer o storïau eraill ar gyfer plant ysgolion cynradd o bob oed a gallu. Mae’r rhain yn eang eu cwmpas ac yn cynnwys storïau am ysbrydion, pêl-droed, ysbrydion sy’n chwarae pêl-droed, merch o gyfnod y Tuduriaid sy’n dditectif, deinosoriaid a hen fenyw sy’n mynd yn ôl i’r ysgol yn 109 mlwydd oed!
|
|
Claire Llewellyn
Mae Claire Llewellyn yn awdures sydd wedi ennill gwobrau am ei llenyddiaeth ffeithiol ar gyfer plant ifainc. Yn 1991 roedd hi ar restr fer y TES Junior Information Book Award am MacDonald's Take One: Rubbish, ac yn 1992 enillodd hi’r wobr fawreddog honno am My First Book of Time.
|
|
Ers hynny mae hi wedi ysgrifennu mwy na 20 o lyfrau i blant ar ystod eang o bynciau. Hi yw awdur llyfr diweddar Kingfisher, Saints and Angels. Mae Claire yn byw yn Hertford.
|
|
Haydn Middleton
Mae’r awdur Prydeinig Haydn Middleton wedi defnyddio ei wybodaeth o hanes, chwaraeon a chwedloniaeth ei wlad ei hun i ysgrifennu llyfrau ffeithiol ar gyfer plant a nofelau ffantasi ar gyfer darllenwyr hŷn. "Y llinyn cyswllt sy’n rhedeg trwy fy llyfrau mae’n siŵr yw fy obsesiwn gyda mythau, chwedlau a llên gwerin ynys Prydain," meddai Middleton unwaith am ei ffuglen. "Yr hyn rwy’n ei osod
|
ynghyd, llyfr wrth lyfr, yw ‘hanes hudol o’r wlad, disgrifiad amgenach ‘byw’ o stori’r wlad, mewn gwrthgyferbyniad â’r doethinebau cyffredin sydd wedi’u cynnwys mewn gwerslyfrau."
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Reading ac aeth wedyn i astudio Hanes Modern yn New College, Rhydychen. Ar ôl cyfnodau fel swyddog gweithredol hysbysebu, athro a golygydd Gwasg Prifysgol Rhydychen, mae e wedi bod yn ysgrifennwr llaw rydd am dros ddau ddegawd. Mae e hefyd wedi darlithio ar ysgrifennu creadigol yn UDA ac Awstralia, ac ar hanes mytholegol ar gyfer Adran Addysg Barhaus Prifysgol Rhydychen. Mae e’n byw yn Rhydychen gyda’i fab, ei ferch, ei bartner a’i phedair merch hi
|
Damian Harvey
Mae Damian Harvey wedi ysgrifennu llawer o lyfrau i blant, bron i 50 y tro olaf iddo gyfrif, ac mae e’n ymwelydd poblogaidd ag ysgolion a llyfrgelloedd trwy’r wlad. Mae e’n byw yn ymyl Blackpool gyda’i wraig a’i dair merch, pedair cath, tri mochyn cwta, dwy gwningen, un bochdew a llond tanc o bysgod. Pan nad yw e’n brysur yn ysgrifennu neu’n ymweld ag ysgolion mae e’n mwynhau nofio, bwyta caws, gwylio ffilmiau a gwrando ar gerddoriaeth (er nid y cyfan ar yr un pryd).
|
|
|
John Malam
Mae John Malam wedi ysgrifennu llawer o lyfrau, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n llyfrau gwybodaeth neu’n llyfrau ffeithiol i blant. Mae llawer o’i lyfrau am hanes, ond mae e'r un mor hapus yn ysgrifennu llyfrau am y tywydd, ceir, awyrennau, udfleiddiaid, dreigiau, deinosoriaid neu bobl enwog! Yn 2008 daeth yn Bencampwr Darllen Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llythrennedd, ac fe’i cydnabyddwyd am ei waith yn sbarduno darllenwyr amharod, yn enwedig bechgyn. Mae e’n byw yn Winsford, Swydd Gaerlleon.
|
|