|
  
|
          
|
|
|
                 
|
| | |
Prosiect X yng Ngweithiad
Beth mae athrawon yn ddweud:-
“Mae cydberthynas y ddau ddosbarth, ffuglen a ffeithiol yn galluogi’r plant i weld natur gyfannol darllen ac ysgrifennu. Mae Prosiect X wedi ysbrydoli’r plant a’r athrawon ill ddau i feddwl mewn ffordd ddychmygus a chreadigol sydd wedi dylanwadu ar eu brwdfrydedd.
Pa bris allwch chi ei osod ar sgiliau darllen ac ysgrifennu plant? Mae Prosiect X yn werth pob ceiniog ac nid geiriau oedolion yn unig yw hynny ond geiriau plant hefyd...”
|

|
Caroline Davies, Prifathrawes, Ysgol Gynradd Wisbech St Mary CE (A)
|
“Doedd gan fachgen ym Mlwyddyn 2 ddim diddordeb mewn ymuno mewn unrhyw wers ac yr oedd yn ymddangos wedi diflasu’n llwyr. Pan welodd e’r CD roedd e wedi dal ei ddiddordeb yn syth, cafodd ei hudo gan yr hyn oedd yn digwydd ar y sgrin ac roedd e eisiau dweud wrth unrhywun oedd yn fodlon gwrando arno am y plot a’r storïau.
Nawr mae’r bachgen yma eisiau darllen y storiau a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ei athro wedi synnu gan y trawsnewidiad. Yn gryno goleuodd ei wyneb, daliwyd ei sylw, iddo fe roedd gan Brosiect X y ffactor X.”
Mrs Hael, Cydlynydd Llythrennedd, Ysgol y Babanod Guiseley, Leeds
|
|
|
|
“Mae Prosiect X wedi tanio dychymyg y bechgyn (a’r merched). Mae llawer wedi’u hysbrydoli i ddal ati i ddarllen hyd yn oed yn ystod amseroedd chwarae gwlyb. Mae safon darllen yn yr ysgol wedi’i godi fel canlyniad i gyflwyno deunydd sbardun newydd Prosiect X.”
Duncan Finlayson, Ysgol Gynradd Whittington, Caint
|
|
“Pan ddadansoddwyd data asesu’r ysgol roedd yn amlwg nad oedd bechgyn yn cyflawni cystal â merched mewn darllen ac roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o annog bechgyn amharod i ddarllen.
Gyda hyn mewn golwg edrychon ni ar Brosiect X a phenderfynon brynu’r rhaglen i gefnogi anghenion y plant yn estyn o’r cyfnod cynharaf hyd at ein plant mwyaf galluog ym Mlwyddyn 2.
Ers defnyddio Prosiect X mae’r amharodrwydd i ddarllen wedi diflannu. Mae’r dyluniadau yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae’r plant yn gallu uniaethu â’r cymeriadau ac mae Hops yn ffefryn gyda’r bechgyn gan ei fod mor ddireidus.
Pan gyflwynwyd Prosiect X i’n plant, roedd y plant wedi’u cyffroi yn syth ac yn awyddus i ddarllen y storïau. Mae’r staff wedi sylwi ar blant yn sgwrsio am y cymeriadau a’r storïau, gan hyd yn oed actio’r storïau ar yr iard chwarae!
Mae Prosiect X, ynghyd â’n strategaethau eraill, wedi codi ein disgwyliadau darllen yn yr ysgol yma gan fod ein plant yn cyflawni cymaint yn fwy!”
Nicki Machin, Ysgol Fabanod Filton Avenue, Bryste
|
|
|
“Rydyn ni wedi bod yn defnyddio Prosiect X am y 12 mis diwetha’ yn CA2 gydag effaith arwyddocaol ar ein canlyniadau darllen ar gyfer pob disgybl nid dim ond y bechgyn! Mae’r cynnydd mor arwyddocaol fel ein bod wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i brynu’r gyfres Goeden Ddarllen Rhydychen yn ei chrynswth ar gyfer yr ysgol. Mae’r plant yn edrych ymlaen at y stori nesaf ac mae eu rhieni’n cymryd rhan hefyd.”
Lynn Small, Ysgol Gynradd Little Green
|

|
|
“Ar ddechrau’r tymor yma cyflwynon ni Prosiect X i’n bechgyn. Mae’r llyfrau wedi bod yn anhygoel o boblogaidd gyda’r bechgyn a’u rhieni ill dau ac mae swmp eu darllen wedi codi’n synhwyrol.
I goroni’r cyfan ceir storiau rhyngweithiol ar y CD Rom sy’n gyd fynd â’r gyfres. Mae’r darn arloesol yma o feddalwedd yn caniatáu i’r athro fod â rheolaeth bron yn llwyr ar y stori. Mae e hefyd wedi ychwanegu dimensiwn newydd i ddarllen yn ein hysgol - mae’r bechgyn wrth eu bodd gyda’r dechnoleg sy’n caniatáu iddyn nhw ddarllen gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Fel athro, rydw i’n gallu rheoli cyflymdra’r darllen, rydw i’n gallu enghreifftio darllen naill ai cyn neu ar ôl i fachgen ddarllen, rydw i’n gallu trafod yn fanwl y cymeriadau a lleoliad y stori ac rydw i wir yn gallu hybu datblygiad eu siarad a’u gwrando. Rydw i’n defnyddio’r CD fel llyfr darllen ar gyfer y dosbarth cyfan. Mae pawb yn gallu gweld pob tudalen a llun yn glir - does dim ffraeo ynglŷn â rhannu llyfrau a dim ond 1 CD sydd ei angen arnaf er mwyn i’r holl ddosbarth fod yn darllen - sy’n llawer rhatach na phrynu set gyfan o lyfrau.
Rydw i’n arbennig o hoff o’r opsiwn lle bo’r cyfrifiadur yn darllen tudalen - sy’n wych ar gyfer darparu ychydig o gymorth cynnil i’r rhai sydd yn gweld darllen yn heriol. Yn bwysicach oll, mae’r bechgyn wrth eu bodd gyda’r sesiynau hyn ac yn edrych ymlaen atyn nhw bob wythnos. Os yw disgyblion yn mwynhau rhywbeth maen nhw’n dueddol o wneud yn well ynddo! Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynyddu nifer y storïau sydd gennym ni ar ddisg, os yw cyllid yn caniatáu.”
Steve Gilden, Pennaeth yr Adran Iau, Ysgol Lockers Park
|
|
|
|
|
|

 
|
|
|
|
|