                 
|
Adnoddau Prosiect X
Mae clystyrau thematig unigryw Prosiect X yn cyfuno ffuglen a ffeithiol ac yn annog darllen ehangach ac yn datblygu ystod o sgiliau llythrennedd.
Y Clystyrau Thematig – Llyfrau o Glwstwr Blwyddyn 2 ‘Adeiladau’ cliciwch i weld enghraifft o dudalen.
Storïau rhyngweithiol ar gael ar gyfer: Y Dosbarth Derbyn; Blwyddyn 1; Blwyddyn 2; Blynyddoedd 3 a 4.
Yn ddelfrydol ar gyfer addysgu dosbarth cyfan neu waith annibynnol
Mae pob CD yn cynnwys chwe stori am gymeriadau wedi’u troi’n fyw ar sgrin ac yn defnyddio technoleg troi tudalen, sain ac animeiddio.
Mae’r sain yn rhoi enghraifft o ddarllen rhugl ac o gymorth arbennig i blant ag AAA a hwyr ddyfodiaid i addysg gyfrwng Gymraeg.
Mae’n cynnwys clipiau fideo, ffotograffau, synau ac animeiddiadau i osod cyd-destun y stori ac i annog trafod cyn darllen.
Mae ystod lawn o offer yn eich galluogi i archwilio ac anodi’r testun.
Mae storfa o luniau o gymeriadau a fframau ysgrifennu yn cael eu cynnwys i gefnogi ysgrifennu plant – ar bapur neu wrth ddefnyddio TGCH.
Cymorth Addysgu
Nodiadau Dysgu dan Arweiniad
Cymorth hyblyg ar gyfer darllen dan arweiniad, yn eich caniatáu i dargedu anghenion eich disgyblion.
Amcanion a nodau asesu clir ar gyfer pob sesiwn.
Awgrymiadau ar gyfer datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys dadgodio, deall, rhuglder a siarad a gwrando.
Gweithgareddau dilynol sy’n hybu darllen, ysgrifennu, siarad, drama, llunio a gwneud.
|
|
|
Llawlyfr Dysgu
Cyngor cynhwysfawr ar sut i wneud y mwyaf o Brosiect X.
Cymorth ar gyfer asesu a monitro cynnydd disgyblion.
Cyngor ar weithio gyda rhieni a gofalwyr.
Syniadau ar gyfer defnyddio dull thematig.
Gweithgareddau Meistrgopïau i gyd-fynd â phob llyfr.
|
|
|
|

 
|
|